Proverbs 1

1Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: a

Pwrpas y diarhebion

2I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn;
ac i ti ddeall beth sy'n gyngor call.
3I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog,
yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg.
4I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall,
a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.
5(Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy;
a'r rhai sy'n gall yn derbyn arweiniad.)
6Hefyd i ti ddeall dihareb a gallu dehongli
dywediadau doeth a phosau.

Arwyddair y casgliad

7Parchu'r Arglwydd ydy'r cam cyntaf at wybodaeth;
does gan ffyliaid ddim diddordeb mewn bod yn ddoeth na dysgu byw yn iawn.

Cyngor i bobl ifanc

8Fy mab, gwrando ar beth mae dy dad yn ei ddweud;
a paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti.
9Bydd beth ddysgon nhw i ti fel torch hyfryd ar dy ben,
neu gadwyni hardd am dy wddf.
10Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di,
paid mynd gyda nhw.
11Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni!
Gad i ni guddio i ymosod ar rywun;
mygio rhywun diniwed am ddim rheswm!
12Gad i ni eu llyncu nhw'n fyw, fel y bedd;
a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron marw.
13Cawn ni pob math o bethau gwerthfawr;
a llenwi ein tai gyda phethau wedi eu dwyn.
14Tyrd gyda ni! Bydd yn fentrus! –
byddwn yn rhannu popeth gawn ni.”
15Fy mab, paid mynd y ffordd yna;
cadw draw oddi wrthyn nhw.
16Maen nhw'n rhuthro i wneud drwg;
maen nhw ar frys i dywallt gwaed.
17Fel mae'r rhwyd sy'n cael ei gosod
yn golygu dim byd i'r aderyn,
18dŷn nhw ddim yn gweld y perygl –
maen nhw'n dinistrio eu bywydau eu hunain!
19Ie, dyna sy'n digwydd i'r rhai sy'n elwa ar draul eraill;
mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun!

Doethineb yn galw

20Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd,
ac yn codi ei llais ar y sgwâr.
21Mae'n sefyll ar gorneli'r strydoedd prysur ac yn galw allan;
ac yn dweud ei dweud wrth giatiau'r ddinas:
22“Ydych chi bobl wirion yn mwynhau anwybodaeth?
Ydych chi sy'n gwawdio am ddal ati?
A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu?
23Peidiwch diystyru beth dw i'n ddweud!
Dw i'n mynd i dywallt fy nghalon,
a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi.
24Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o'n i'n galw,
ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi.
25Roeddech chi'n diystyru'r cyngor oedd gen i
ac yn gwrthod gwrando arna i'n ceryddu.
26Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion;
fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi'n panicio!
27Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm,
a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt!
Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn.
28Byddwch chi'n galw arna i bryd hynny,
ond fydda i ddim yn ateb;
byddwch chi'n chwilio'n daer amdana i,
ond yn methu dod o hyd i mi.
29Roeddech chi wedi gwrthod dysgu,
ac wedi dangos dim parch at yr Arglwydd.
30Gwrthod y cyngor rois i,
a cymryd dim sylw pan oeddwn i'n dweud y drefn.
31Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd,
a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau.
32Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw,
a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio.
33Ond bydd pwy bynnag sy'n gwrando arna i yn saff,
yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.”
Copyright information for CYM